Music Box

Welcome to your musical instrument pack!

Within this pack are the materials to make 3 different instruments. Alongside the materials there is a musical soundtrack to help you explore your new instruments and to make some music together.
This pack has been designed for you by Musician and Music therapist Rosie Angell

Croeso i’ch pecyn offerynnau cerdd!

Mae’r pecyn yn cynnwys deunyddiau i wneud tri offeryn gwahanol. Ochr yn ochr a’r deunyddiau mae trac sain cerddorol i’ch cynorthwyo chi i archwilio’r offerynnau newydd a chreu cerddoriaeth gyda’ch gilydd.
Dyluniwyd y pecyn hwn ar eich cyfer chi gan y cerddor a’r therapydd cerdd Rosie Angell.

Tamborine - music box

Track 1 – Hello Song
This is a short welcome song to help you get in the mood for some music making.

Track 2 – The Gobbie O (Trad)
Track 2 is a song to help you explore loud and quiet sounds with your instruments.
Make sure you try loud and quiet sounds on all the instruments, some might be harder than others! Sometimes we want to play and listen to loud music or sometimes we might find quiet gentle music suits our mood better.

Track 3 – Vals from Smorland/Godesses/Parsons Farewell (Trad)
These tunes start slowly and gradually get faster and faster. Can you keep up with the speed change? How does the change in speed affect you?

Track 4 – John Ryans (Trad)
This tune is all about taking turns and listening to each other play. First you will hear the tune all the way through and then the second time there will be gaps for you to play in.

Track 5 – The Galway (Trad)
This is a traditional folk tune to play along to. Can you play in time with the beat?

Track 6 – Goodbye song
This is a short goodbye song to say thank you for joining in and goodbye!

Trac 1 – Can helo
Can groeso fer i’ch cael chi yn y naws iawn i greu cerddoriaeth.

Trac 2 – The Gobbie O (Traddodiadol)
Mae Trac 2 yn gan i’ch helpu chi archwilio seiniau uchel a distaw gyda’ch offerynnau.
Gwnewch yn siwr eich bod chi’n rhoi cynnig ar seiniau uchel a distaw ar bob un offeryn – efallai y bydd rhai’n anoddach na’i gilydd! Weithiau rydym ni eisiau chwarae a gwrando ar gerddoriaeth uchel, a thro arall efallai y bydd cerddoriaeth dawel yn gweddu’n well i’n hwyliau.

Trac 3 – Vals from Smorland/Godesses/Parsons Farewell (Traddodiadol)
Mae’r alawon hyn yn dechrau’n ara deg ac yn mynd yn gyflymach a chyflymach yn raddol. Fedrwch chi ddal i fyny efo’r newid cyflymder? Sut mae’r newid yn y cyflymder yn effeithio arnoch chi?

Trac 4 – John Ryans (Traddodiadol)
Mae’r alaw hon yn ymwneud a chymryd eich tro a gwrando ar y naill a’r llall yn chwarae. Byddwch yn clywed yr alaw gyfan yn gyntaf ac yna’r ail waith bydd bylchau i chi chwarae eich rhan chi.

Trac 5 – The Galway (Traddodiadol)
Alaw werin draddodiadol i chi gyd-chwarae gyda hi. Fedrwch chi gadw amser cywir gyda’r curiad?

Trac 6 – Can ffarwel
Can ffarwel i ddweud diolch yn fawr iawn am gymryd rhan a hwyl fawr.